PAC(4) 15-13 paper3

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

 

Mawrth 2013

 

 

 

Yn dilyn y llythyr dyddiedig 11 Chwefror 2013 a oedd yn amgáu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru, rydym wedi ein calonogi sylwi bod y Pwyllgor yn teimlo y gwnaed cynnydd da i roi sylw i bryderon y pwyllgor blaenorol.

 

Mae’n bleser gennym adrodd hefyd:

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 1

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn rhyddhau i’r cyhoedd Gylch Gwaith y Bwrdd Cyflenwi Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth, gan gynnwys manylion sut mae’r Bwrdd yn cyflawni’r Cylch gwaith hwn a’i raglen waith. Argymhellwn hefyd y dylai allbwn ac argymhellion y Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth a’i is-grwpiau hefyd fod ar gael i’r cyhoedd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae rhan o wefan y Prif Swyddog Nyrsio yn awr yn cynnwys adran yn benodol ar Wasanaethau Mamolaeth. Defnyddir hon i roi’r diweddaraf i’r darllenwyr ar y cynnydd o safbwynt gweithredu’r Weledigaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yn ogystal ag i’w hysbysu o gynlluniau newydd sy’n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth.

Mae Cylch Gwaith y Bwrdd Mamolaeth a’i raglen waith ar gael ar y wefan ynghyd â’r rhifyn cyntaf o gylchlythyr chwarterol ‘Newyddion Mamolaeth’. Bwriedir y cylchlythyr ar gyfer Bydwragedd a Defnyddwyr ac mae’n darparu diweddariad byr ar y camau i weithredu’r Weledigaeth Strategol.

Caiff argymhellion y Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth a’r allbwn gan y pum is-grŵp eu postio ar y wefan yn Ebrill 2013.

 

Argymhelliad 2

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau y ceir eglurder cynyddol ar weithredu Cynlluniau Cyflenwi Lleol ac y cyhoeddir amserlen glir ar gyfer cynhyrchu’r cynlluniau hyn.

 

Ymateb: Derbyn

 

Daeth Cynllun Cyflenwi Lleol i law ar gyfer blynyddoedd 2012/2013 a 2013/2014 oddi wrth bob Bwrdd Iechyd. Mae swyddogion yn craffu ar y rhain a chânt eu trafod yng nghyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth. Diben y Bwrdd Mamolaeth yw:

 

Dwyn y Byrddau Iechyd i gyfrif am gyflenwi gwasanaethau mamolaeth yn unol â’r camau gweithredu allweddol yn y Weledigaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru drwy:

 

Er enghraifft, un maes perfformiad a gaiff ei fonitro yw ysmygu yn ystod beichiogrwydd. Mae mwy o famau sy’n byw yng Nghymru yn ysmygu gydol eu beichiogrwydd nag mewn unrhyw ardal arall o’r DU, a chynhwyswyd gostyngiad yn y cyfraddau uchel hyn fel un o’r dangosyddion allweddol yng Nghynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco. I ddewis ffordd ymlaen, sefydlwyd prosiectau peilot mewn pedair ardal Bwrdd Iechyd i brofi gwahanol fodelau o gefnogaeth rhoi’r gorau i ysmygu i fenywod beichiog.

 

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth ddwywaith y flwyddyn yn y gwanwyn a’r hydref er mwyn rhoi sylw i berfformiad blaenorol a blaengynllunio ar gyfer gwella’r cyflenwi. Gosodwyd y dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth ar gyfer 2013 ac mae’r Byrddau Iechyd wedi cytuno arnynt.


Mae’r Canllawiau Gweithlu yn dwyn ynghyd y safonau presennol a ddisgwylir i gynnal gwasanaethau cynaliadwy, diogel a bydd angen ystyried y canllawiau hyn wrth i’r Byrddau Iechyd ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer ail-ddylunio gwasanaethau.

Pryd bynnag y ceir materion trawsffiniol, disgwylir i’r Byrddau Iechyd rannu eu Cynlluniau Cyflenwi Lleol gyda chyrff y GIG yn Lloegr.


 

 

Argymhelliad 3

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â’r Is-grŵp Gwybodeg, yn datblygu ac yn gweithredu proses casglu data electronig gadarn a chyson ar gyfer gwasanaethau mamolaeth ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru er mwyn dileu’r angen am gasglu data yn aneffeithlon â llaw.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae gan bob Bwrdd Iechyd yn awr gynlluniau wedi’u sefydlu i gywreinio ac ymestyn defnyddio’r systemau mamolaeth gweithredol cyfredol neu eu disodli er mwyn casglu data electronig cadarn a chyson, gan leihau baich casglu data yn aneffeithlon â llaw.

Mae aelodau’r Is-grŵp Gwybodeg, gan weithio gyda’u cydweithwyr o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Byrddau Iechyd, wedi canfod proses ar gyfer tynnu data o systemau gweithredol electronig cyfredol y GIG. Caiff y data ei ddadansoddi i gynhyrchu’r mesurau a’r dangosyddion a nodir gan yr Is-grŵp Dangosyddion. Yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwaith hwn, bydd y Gyfarwyddiaeth Wybodaeth o fewn NWIS yn bwrw’r gwaith hwn ymlaen er mwyn cywreinio set safonedig o eitemau data.

Gofynnir i’r Byrddau Iechyd adrodd ar eu cynnydd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth yn y gwanwyn a disgwylir iddynt gyflwyno’r holl ddata sy’n ofynnol erbyn Gorffennaf 2013.

 

Argymhelliad 4

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn egluro ac yn cyhoeddi ei diffiniad o “rieni gwybodus a hyderus” ac yn sicrhau:

 

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn a byddwn yn dechrau ar y gwaith angenrheidiol er mwyn cyflawni ei amcanion.

 

Penderfynwyd ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr i gael eu barn gan fod diffiniad o “rieni gwybodus a hyderus” yn cynrychioli dealltwriaeth oddrychol.  

 

Cyfarfu grŵp o randdeiliaid Cymru gyfan, gan gynnwys cadeiryddion defnyddwyr y Pwyllgorau Cyswllt Gwasanaethau Mamolaeth yn y Byrddau Iechyd, yn Ionawr 2013 i gytuno ar y dull gorau o gasglu gwybodaeth am foddhad defnyddwyr o safbwynt rhieni gwybodus a hyderus a chael eu trin â pharch ac urddas.

 

Cytunwyd y byddai pob Bwrdd Iechyd yn defnyddio’r un fformat ar gyfer gofyn y cwestiynau hyn cyn i fenyw adael yr ysbyty yn dilyn genedigaeth.

 

Caiff yr arferion da eu rhannu drwy gyfrwng y Bwrdd Arloesi a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a drwy gyfrwng adroddiadau chwe misol gan y Bwrdd Mamolaeth.

 

Disgwylir i’r Byrddau Iechyd hefyd ryddhau’r wybodaeth hon i’r cyhoedd drwy gyfrwng eu gwefannau a’u hysbysfyrddau lleol.

 

Gofynnir i’r Byrddau Iechyd gydgasglu’r ymatebion ac adrodd wrth y Bwrdd Mamolaeth, gyda’r mesur cyntaf yn cael sylw ym Mwrdd Mamolaeth yr hydref.

 

Ceir cwestiynau enghreifftiol i’r Byrddau Iechyd eu defnyddio yn atodiad 1

 

 

Argymhelliad 5

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn darparu eglurhad ar ei disgwyliadau o safbwynt y lefelau staffio gofynnol er mwyn sicrhau gwasanaethau obstetreg a bydwreigiaeth diogel a chynaliadwy a’i bod yn rhoi esboniad o sut mae’r data a gesglir oddi wrth gyrff iechyd ar eu lefelau staffio mewn bydwreigiaeth yn darparu manylder digonol i ganfod a yw’r disgwyliadau hyn yn cael eu bodloni.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr yn argymell y dylai presenoldeb ymgynghorwyr fod yn 40 awr yr wythnos ar uned oni bai bod gan yr uned dros 5,000 o enedigaethau’r flwyddyn, ac os felly, dylai fod yn 60 awr yr wythnos.

 

Mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn argymell defnyddio Birthrate Plus i bennu lefelau staffio mewn bydwreigiaeth. 


Nid yw Llywodraeth Cymru yn gofyn am niferoedd dydd i ddydd y staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau mamolaeth oherwydd y disgwylir i’r Byrddau Iechyd reoli salwch ac absenoldeb. Er hynny, rydym yn hyderus y cawn wybodaeth gywir ar gydymffurfio â gofynion Birthrate Plus a nifer y staff meddygol sydd mewn swyddi.

Disgwyliwn y bydd yr holl Fyrddau Iechyd yn cydymffurfio â’r safonau hyn. Er mwyn sicrhau y cynhelir hyn, bydd gofyn iddynt adrodd ar eu lefelau staffio yng nghyfarfodydd chwe misol y Bwrdd Mamolaeth.

 

Argymhelliad 6

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Byrddau Iechyd i sicrhau y rheolir defnyddio staff asiantaeth a locwm yn effeithlon er mwyn dibynnu cyn lleied â phosib ar ddefnyddio staff dros dro i lenwi bylchau hirdymor. Argymhellwn hefyd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Byrddau Iechyd i wahanu’r costau staffio meddygol sy’n gysylltiedig â gwasanaethau mamolaeth oddi wrth y costau sy’n gysylltiedig â Gynaecoleg.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda holl sefydliadau’r GIG i fonitro a chraffu ar wariant ar staff asiantaeth a locwm gydol y flwyddyn ariannol ar lefel y Byrddau Iechyd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd, drwy gyfrwng y Grŵp Cyflenwi Cenedlaethol, wedi pwysleisio pwysigrwydd lleihau defnyddio staff asiantaeth a locwm, ac wedi rhannu gyda Byrddau Iechyd eraill fanylion arferion da ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan i sicrhau gostyngiadau. Gofynnwyd i Fyrddau Iechyd eraill ystyried cymryd camau tebyg er mwyn cael gostyngiadau pellach yn y costau. Yn ogystal, hyrwyddwyd defnyddio systemau rhestrau dyletswydd electronig i sicrhau y defnyddir staff a gyflogir yn barhaol i’r eithaf. Rhyddhawyd cefnogaeth ariannol i’r systemau hyn drwy gyfrwng cynllun Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Rhoddir ystyriaeth bellach i gasglu’r wybodaeth hon ar lefel Gwasanaethau Mamolaeth fel rhan o’r wybodaeth am berfformiad y gofynnir amdani ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd a drefnwyd ar gyfer y gwanwyn a’r hydref.

 

Mae’r Byrddau Iechyd ar hyn o bryd yn dosbarthu cyfanswm y costau meddygol rhwng gwasanaeth mamolaeth a gynaecoleg er mwyn cyflwyno costau arbenigedd yn y datganiad costau cyfeirio cenedlaethol blynyddol. Yn gyffredinol, bydd Byrddau Iechyd yn defnyddio cynlluniau swyddi ymgynghorwyr fel y sylfaen ar gyfer dosbarthu’r holl gostau meddygol rhwng gwasanaethau mamolaeth a gynaecoleg. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cywirdeb data costau’r GIG. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr grwpiau technegol i wella dyrannu costau meddygol, gan gynnwys costau locwm, rhwng gwasanaethau mamolaeth a gynaecoleg ar gyfer datganiadau costau cyfeirio i’r dyfodol yn natganiadau costau cyfeirio 2012/13. Yn unol â’r amserlenni costau cyfeirio, caiff y rhain eu cwblhau erbyn Hydref 2013. 

 

 

Argymhelliad 7

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Byrddau Iechyd i fonitro ac adolygu’n rheolaidd gymhwysedd ac anghenion hyfforddiant holl staff unedau mamolaeth er mwyn sicrhau bod mwy o staff yn gallu dehongli data monitro cyflymder calon y ffetws yn electronig.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r Prif Swyddog Nyrsio wedi arwain Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru gyfan i gytuno ar y pecyn hyfforddiant mwyaf priodol a fydd am y tro cyntaf yn cynnwys asesiad o gymhwysedd.

 

Disgwylir i bob Bwrdd Iechyd yn awr gyflwyno’r pecyn asesu a hyfforddi hwn erbyn Medi2013.

 

Bydd y Byrddau Iechyd yn adrodd ar eu cynnydd gerbron y Bwrdd Mamolaeth yn yr hydref. Disgwylir iddynt gadw cofnodion o asesiadau a hyfforddiant staff ynghyd â gwybodaeth am nifer y digwyddiadau difrifol sy’n gysylltiedig â chamddehongli CTG er mwyn sicrhau bod y pecyn hyfforddi ac asesu yn gwella’r dehongli.

 

 

Argymhelliad 8

Mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i roi sylw i’r prinder staff mewn unedau newyddenedigol ac mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau bod Byrddau Iechyd ledled Cymru yn gwella’u trefniadau cynllunio gweithlu ar gyfer gofal newyddenedigol. Yn benodol, argymhellwn ei bod yn rhoi sylw i gyflenwi gwasanaethau newyddenedigol yng ngogledd Cymru wrth ddatblygu cynlluniau’r gweithlu.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae materion staff yn her o hyd er bod yr Adolygiad o Gapasiti Newyddenedigol diweddaraf yn dangos cynnydd. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd bu gwelliant yn y lefelau staffio nyrsys newyddenedigol. Mae’r bwlch mewn prinder nyrsys wedi gostwng oddeutu 50% o 82.64 cyfwerth ag amser llawn (wte) yn yr adolygiad blaenorol i 42.027 wte yn yr adolygiad hwn.

 

Byrddau Iechyd sy’n gyfrifol yn y pendraw am lefelau gweithlu yn eu hardaloedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn BILlau i gyfrif ar gyflenwi gwasanaethau newyddenedigol yn erbyn safonau.

 

Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol yn gwneud cynnydd i ddatrys problemau’r gweithlu fel blaenoriaeth allweddol, fel y dangosir yn Adolygiad o Gapasiti 2013. Mae’r Rhwydwaith Newyddenedigol:-

·         Yn datblygu cynllun gweithlu newyddenedigol cadarn (meddygol, nyrsio, therapïau) ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf.

·         Yn gweithio gyda’r BILlau i sefydlu rhaglenni cylchdroadau clinigol nyrsio i gefnogi datblygu cymhwysedd

·         Yn datblygu hyfforddiant aml-broffesiynol, yn seiliedig ar archwiliad o anghenion ar draws BILlau

·         Yn gweithredu cyfrwng aciwtedd y gweithlu nyrsys.

 

 

Argymhelliad 9

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn egluro ac yn cyhoeddi ei diffiniad o “ostyngiad sylweddol” mewn cyfraddau toriad Cesaraidd ynghyd ag amserlen y mae’n disgwyl i’r Byrddau Iechyd lynu wrthi ar gyfer cyflawni gostyngiad o’r fath.

 

Ymateb: Derbyn

 

Daeth data cyfredol i law oddi wrth y Byrddau Iechyd ar eu cyfraddau toriadau Cesaraidd (fe’u gwelir yn y tabl isod). Cwblheir yr adroddiadau bob mis o Ebrill 2013 ymlaen.

 

Bwrdd Iechyd

Cyfradd Toriad Cesaraidd

Aneurin Bevan

23.7%

Abertawe Bro Morgannwg

25.7%

Betsi Cadwaladr

25.5%

Caerdydd a’r Fro

20.4%

Cwm Taf

29.2%

Hywel Dda

25.9%

Powys

Amh

 

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld gostyngiad yn y cyfraddau toriadau Cesaraidd os yw’r Byrddau Iechyd yn adrodd 25% neu drosodd yn ystod 2013. Os yw’r cyfraddau yn 25% neu’n uwch mae’r Byrddau Iechyd wedi darparu eu cynlluniau i ostwng y cyfraddau hyn a chaiff y rhain eu trafod yng nghyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth.

 

Disgwylir i Fyrddau Iechyd sydd â chyfraddau is na 25% adolygu a gwella’n barhaus er mwyn sicrhau bod eu cyfraddau’n aros yn briodol ar gyfer eu poblogaethau.

 

Argymhelliad 10

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn sefydlu system fwy trylwyr ar gyfer casglu ac adolygu gwybodaeth gan y Byrddau Iechyd ar eu perfformiad o safbwynt cyfraddau toriadau Cesaraidd. Argymhellwn hefyd i adborth mwy rheolaidd ac ystyrlon gael ei ddarparu i gynorthwyo Byrddau Iechyd i reoli’r cynnydd i leihau’r cyfraddau pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Dylai’r adborth hwn adlewyrchu’r sialensiau a osodir gan ganllawiau NICE ar doriadau Cesaraidd.

 

Ymateb: Derbyn


Fel y gwelir uchod mae Llywodraeth Cymru yn awr yn disgwyl adroddiadau misol ar Gyfraddau Toriadau Cesaraidd gan y Byrddau Iechyd gyda naratif i gyd-fynd â hwy os yw’r cyfraddau yn uwch na 25%. Caiff hyn ei archwilio ymhellach gyda phob Bwrdd Iechyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth er mwyn canfod arferion da a gwendidau, fel ei gilydd. Yn dilyn pob cyfarfod, bydd y Byrddau Iechyd yn cael adborth gan y Prif Swyddog Nyrsio.

 

Pryd bynnag y ceir gwelliant sylweddol yn y cyfraddau, gofynnir i’r Byrddau Iechyd rannu’r arferion da drwy gyfrwng y Bwrdd Arloesi a sefydlwyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â drwy gyfrwng y pwyllgorau Cymru gyfan megis Grŵp Ymgynghorol Penaethiaid Bydwreigiaeth Cymru a’r Grŵp Ymgynghorol Arbenigol Cenedlaethol ar Iechyd Menywod.

 

Mae’r holl Fyrddau Iechyd yn defnyddio Dangosfyrddau lleol i adrodd am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd wrth y Bwrdd Mamolaeth fel y gall y tîm gweithredol drafod gwelliannau parhaus.

 

Argymhelliad 11

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn egluro bod y data y mae’r Byrddau Iechyd yn adrodd arnynt ar asesiadau cynenedigol cychwynnol a wnaed yn ystod deg wythnos cyntaf y beichiogrwydd yn gyson ac yn gadarn, ac yn benodol y dylai’r data:

 

Ymateb: Derbyn yn Rhannol


Sefydlwyd y mesur perfformiad hwn i sicrhau bod menywod yn cael mynediad cynnar at wasanaethau priodol fel y gallant gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiad cychwynnol, cymryd gwaed ac ysgrifennu cynllun gofal ar gyfer y beichiogrwydd.

Er ei bod yn bwysig i fenywod allu cael mynediad at y gefnogaeth a’r cyngor cynnar hwn ac y gwneir cynlluniau ar gyfer y beichiogrwydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn teimlo bod arni angen data ynglŷn ag ai bydwraig ynteu meddyg teulu wnaeth yr asesiad.

Mae aelodau’r Is-grŵp Gwybodeg, gan weithio gyda’u cydweithwyr o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Byrddau Iechyd, wedi canfod proses ar gyfer tynnu data o systemau gweithredol electronig cyfredol y GIG. Caiff y data ei ddadansoddi i gynhyrchu’r mesurau a’r dangosyddion a nodir gan yr Is-grŵp Dangosyddion. Yn seiliedig ar ganlyniadau’r gwaith hwn, bydd y Gyfarwyddiaeth Wybodaeth o fewn NWIS yn bwrw’r gwaith hwn ymlaen er mwyn cywreinio set safonedig o eitemau data.

Yng nghyfarfod y Bwrdd Mamolaeth yn y gwanwyn, gofynnir i’r Byrddau Iechyd adrodd ar gyfran y menywod y cynhaliwyd yr asesiadau cychwynnol ohonynt erbyn 10 wythnos gyntaf eu beichiogrwydd.

Bydd ond yn cynnwys asesiadau a gwblhawyd, ac a wnaed gan weithiwr proffesiynol priodol – meddyg teulu neu fydwraig.

Disgwylir i’r Byrddau Iechyd gyflwyno’r holl ddata gofynnol erbyn Gorffennaf 2013.

Gofynnir i’r Byrddau Iechyd lunio adroddiad.

 

 

Argymhelliad 12

Argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus erbyn Gorffennaf 2013 ar gynnydd pob Bwrdd Iechyd i wella gwasanaethau mamolaeth.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd yn bleser gan Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus erbyn Gorffennaf 2013, yn dilyn y cylch cyntaf o gyfarfodydd y Bwrdd Mamolaeth.

 

 


Atodiad 1

 

 

A wnaethom Gyflawni?

 

[Ticiwch lle bynnag y teimlwch sydd fwyaf priodol i chi ar y raddfa]

 

  1. Ein nod yw eich paratoi chi a’ch partner i ddechrau magu’ch baban ac i chi deimlo’n hyderus a bod gennych gefnogaeth dda i ofalu am eich baban.

 

A lwyddom i wneud hyn?

 

 


1                      2                      3                      4                      5

Ddim ar unrhyw adeg                                                              Drwy’r amser

 

  1. Mae’n bwysig i ni y cewch eich trin â pharch a charedigrwydd.

 

A lwyddom i wneud hyn?

 

 


1                      2                      3                      4                      5

Ddim ar unrhyw adeg                                                              Drwy’r amser

 

A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym?